Os yn aelodau o’r Urdd, gofynnwn yn garedig i chwi annog eich plentyn/plant i gynhyrchu eitemau adref o’r categoriau isod.
Thema eleni yw BREUDDWYDION.
Cynllunio Crys T (blaen a chefn) i ddathlu eoch cynefin. Gellir lawrlwytho templed o grys T gwag ar wefan yr Urdd.
Cymeriad Cartŵn – Dyfeisio cymeriad cartŵn gan dynnu llun o’r cymeriad ac ysgrifennu amdano heb fod yn hwy na 200 gair
Ffotograffiaeth –
Print Monocrom – Un print yn seiliedig ar y thema. Dylid cyflwyno pob eitem (dim mwy no mount A4) wedi’i fowntio ar gerdyn du.
Print Lliw- Un print yn seiliedig ar y thema. Dylid cyflwyno pob eitem wedi’i fowntio ar gerdyn du heb fod yn fwy na 600mmx500mm.
Cyfres o bedwar print monocrom yn seiliedig ar y thema wedi’u gosod ar gerdyn du heb fod yn fwy na 760mm x 560mm.
Cyfres o bedwar print lliw yn seiliedig ar y thema wedi’u gosod ar gerdyn du heb fod yn fwy na 760mm x 560mm
Pypedau
Un pyped o unrhyw fath yn seiliedig ar y thema, e.e. bys, llaw, llinyn neu bren, mewn unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau. Dylai pob pyped llinyn gael ei gyflwyno mewn ffram bwrpasol. Ni ddylai dimensiwn y pyped ei hun fod yn fwy na 500mm x 500mm x 750mm.
Graffeg Cyfrifiadurol – Gwaith gwreiddiol yn seiliedig ar y thema, wedi’i wneud ar y cyfrifiadur a’i argraffu ar bapur. (Ni chaniateir defnyddio Clip Lun/’Clip Art’).
Ffotograffeg a Graffeg Cyfrifiadurol – Cyfuniad o waith ffotograffiaeth a Graffeg Cyfrifiadurol e.e. gan ddefnyddio sganiwr a chamera digidol i greu un darn o waith gorffenedig mewn maint A4 yn seiliedig ar y thema. Rhaid cynnwys y llun gwreiddiol gyda’r darn gorffenedig.
Gwaith Lluniadu 2D – Gwaith Lluniadu yn seiliedig ar y thema mewn un neu gyfuniad o gyfryngau megis y cyfryngau canlynol: paent, pensil, creion, pastel neu inc.
Gwaith Creadigol 2D – Gwaith yn seiliedig ar y thema mewn cyfuniad o gyfryngau, megis collage, teils, mosaig.
Gwaith Creadigol 3D – Gwaith yn seiliedig ar y thema sy’n cynnal ei hun mewn unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau. Gellir cynnwys deunyddiau o fyd natur.
Serameg/Crochenwaith 3D – Gwaith yn seiliedig ar y thema. Dylid sicrhau fod y clai wedi cael o leiaf un taniad bisged mewn odyn. Dylai’r gwaith unigol ffitio o fewn bocs 300mm x 300mm x 200mm.
Argraffu – Gwaith yn seiiedig ar y thema. Mewn unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau ac eithrio ffabrig. Derbynnir techneg sgrin neu argraffu oddi ar unrhyw arwynebedd, e.e. leino, pren, plastig, metel a.y.y.b.
Argraffu neu addurno ar Ffabrig – Gwaith Creadigol yn seiliedig ar y thema gan ddefnyddio un dechneg yn unig e.e. peintio ar sidan, clymu a llifo, batic, argraffu sgrin, argraffu bloc, defnyddio’r cyfrifiadur a.y.y.b.
Gwaith Creadigol 2D (Tecstilau) – Gwaith Creadigol yn seiliedig ar y thema mewn unrhyw gyfrwng neu gyfuniad o gyfryngau yn defnyddio anrywiaeth o dechnegau.
Gwaith Creadigol 3D Tecstilau)
Gwau (a Llaw) Crosio – Gwaith creadiol yn seiliedig ar y thema.
Gwehyddu – Gwaith creadigol yn seiliedig ar y thema. Ni ddylai unrhyw ochr o’r gwaith fesur mwy na maint 1000mm.
Gellir cofrestru ar lein, neu anfon y gwaith i’r Ysgol erbyn dydd Llun, 20fed o Ebrill.
Mr Gwyndaf Davies
Pennaeth
Headteacher
Ysgol Y Gwernant


icon on your browser bar, choose