• Eira⛄️/Snow❄️ - 21.11.2024

Croeso i Ysgol Gymraeg y Gwernant / Welcome to Ysgol y Gwernant.

Gwreiddiau I Dyfu. Iaith I’w Thrysori /
Roots To Grow. Language To Treasure

Yn dilyn gofynion gan rieni am addysg Gymraeg i blant Llangollen a’r ardal gyfagos, agorwyd yr ysgol ym Mis Medi 2005 fel Ysgol Benodedig Gymraeg. Erbyn heddiw mae 165 o blant ar gofrestr yr Ysgol. Mae yna gynnydd sylweddol yn y nifer o rieni di-gymraeg sy’n danfon eu plant i’r ysgol wrth iddynt weld manteision dwyieithrwydd.

Ymfalchïwn yn safonau cyrhaeddiad uchel yr ysgol, ac mae’r ystod eang o weithgareddau allgyrsiol hefyd yn bwysig inni, gyda disgyblion yn profi llwyddiant mewn amrywiol feysydd o eisteddfodau’r Urdd i fyd chwaraeon.

Fel Ysgol Penodedig Gymraeg pwysleisir meithrin gwybodaeth a deall o ddiwylliant Cymru a meistrioli rhugledd yn yr Iaith Gymraeg. Mae dwyieithrwydd yn rhan annatod o fywyd yr ysgol.

Gobeithiwn ddarparu amgylchedd hapus lawn gofal i’ch plentyn yn ogystal a darparu ystod eang o brofiadau dysgu i bob disgybl.

Credwn hefyd mai trwy feithrin cydweithrediad agos rhwng y cartref a’r ysgol y medrir gwneud y gorau i’ch plentyn. Bydd yna gyfleon i chi rannu yn addysg eich plant a byddwn ninnau o hyd ar gael i siarad a chi am unrhyw agwedd o’u datblygiad.

Pryderwn am holl agweddau datblygiad ein disgyblion a gobeithiwn y byddwch yn cyfrannu gyda ni yn ein hymdrech i wneud y cyfnod hwn ym mywyd eich plentyn yn un llwyddiannus iawn.

Mr Gwyndaf Davies
Gweledigaeth TGCH Ysgol y Gwernant

Mae Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn sail i fywyd modern. Ein nod felly yw hybu hyder pob plentyn mewn TGCH i’w paratoi ar gyfer y byd technegol cyfnewidiol sydd o’u blaenau. Drwy gael mynediad i adnoddau technolegol diweddaraf ac amrywiol, bydd y disgyblion yn meithrin sgiliau TGCH mewn dull gyffrous a diddorol. Rydym yn sicrhau fod staff a disgyblion Ysgol y Gwernant yn arddel agwedd bositif at TGCH ac yn magu’r sgiliau angenrheidiol yn y pwnc i hwyluso’r dysgu a’r addysgu yn drawsgwricwlaidd.


The school was established as a result of the increased demand for Welsh medium education in Llangollen. Ysgol y Gwernant was opened for the first time in September 2005. Today we have 165 pupils on role. There has been a significant inrease in the number of parents who decide to send their children to a Welsh medium school as they realise the benefits of being bilingual.

We pride ourselves in the high standards and achievements of the pupils, and of the vast range of extra curricular activities offered at the school with pupils regularly successful at Urdd music competitions to sporting activities.

As a Welsh school the emphasis will be in promoting a knowledge and understanding of Welsh culture and a fluency in the Welsh Language. Bilingualism is of paramount importance to this school.

We hope to ensure a caring and happy environment for your child as well as providing a wide range of balanced learning opportunities for all children.

We also believe that we can only achieve the best for your child by close cooperation between home and school. There will be opportunities for you to share in your child’s education and the staff and I are always available to talk with you about any aspects of your child’s development.                      

We are concerned about all aspects of our pupils’ development and we hope that you will share with us in making this a successful period in your child’s life.  

Mr Gwyndaf Davies
Headteacher Ysgol y Gwernant