Trefniadau Mabolgampau 15.6.26
Isod mae’r trefniadau ar gyfer ein Mabolgampau ysgol gyfan ar Ddydd Llun, 15.6.26, rhwng 9.15–11.45.
Bydd ein dosbarth Meithrin yn cymryd rhan tan 11.00 y bore, ac yna’n gorffen fel arfer.
Mae tri thîm ar gyfer y mabolgampau: Plas Newydd, Glyn y Groes a Dinas Brân, ac mae gan bob tîm ei liw penodol. Gofynnwn i’ch plentyn wisgo crys‑T yn lliw ei dîm ar y diwrnod. Bydd tîm a lliw eich plentyn yn cael eu hanfon atoch drwy Seesaw.
Gofynnwn hefyd i chi sicrhau bod gan eich plentyn:
-
botel ddŵr
-
eli haul
-
het haul
Trefn y Cystadleuaethau / Order of Events
Bydd y cystadlaethau yr un fath ar gyfer pob dosbarth. Byddwn yn dechrau pob cystadleuaeth gyda’n dosbarth Meithrin/Derbyn ac yn gorffen gyda Blwyddyn 6.
Meithrin i Flwyddyn 6
-
Ras fflat
-
Ras wy ar lwy
-
Ras sachau
-
Ras bagiau ffa
-
Ras dŵr
Derbyn i Flwyddyn 6
-
Ras sgipio
-
Ras gyfnewid
-
Ras hir
Gobeithiwn y bydd rhieni’n gallu mynychu’r bore cyfan neu ran ohono ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.
Mr Gwyndaf Davies
Pennaeth
Headteacher
Ysgol Y Gwernant


icon on your browser bar, choose