-Rh- -E- -C.P- -LL.D- -C.G- -B.C- Noson Agored Meithrin 2025/26

Dydd Llun y 10fed o Tachwedd byddwn yn cynnal noson agored ar gyfer rhieni meithrin newydd. Mae hwn yn gyfle gwych i weld Ysgol y Gwernant a’r addysg y gallwn gynnig i’ch plentyn. Yn Ysgol Gymraeg y Gwernant ymfalchiwn yn y ffaith ein bod yn meddu ar weledigaeth ar gyfer ein disgyblion sy’n sicrhau fod pob disgybl yn cael yr addysg orau oll. Ein cenhadaeth yn Ysgol y Gwernant yw: I fod yn ysgol lwyddiannus sy’n canolbwyntio ar y plentyn wrth galon ein cymuned. Ein nôd yw bod yn sefydliad sydd yn mynd a’r plant ar daith wrth sicrhau eu bod yn cael addysg gyfoethog, ysbrydoledig ac atyniadol sy’n agor drysau iddynt a’u paratoi tuag at y dyfodol; gan alluogi pob plentyn i fod yn gorfforol, yn greadigol, yn dechnegol, yn emosiynol ac yn academaidd ffit am oes!
 Bydd y noson yn dechrau am 4 o’r gloch. Bydd cyflwyniad  dros baned ac yna taith o gwmpas yr ysgol. Er mwyn archebu eich lle neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r ysgol ar: Ffon: 01978 861986 ebost ysgol: [email protected]


Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×