Byddwch yn lliwgar ddydd Mercher 18fed o Fehefin!
Dewch i’r ysgol wedi gwisgo eich hoff liwiau’r enfys, ac yn gyfnewid, dewch â rhodd o liw eich dosbarth i’n helpu i greu gwobrau hamper raffl BENDIGEDID ar thema enfys. Rhoddion awgrymedig: Dewch â byrbrydau a melysion newydd ac mewn dyddiad, anrhegion bach, teganau’r haf a danteithion eraill.
Bydd tocynnau raffl yn cael eu hanfon adref gyda’r plant, a byddant ar gael i’w prynu yn ffair haf yr ysgol. Dychwelwch fonion tocynnau, arian parod, ac unrhyw docynnau na ddefnyddiwyd i’r ysgol erbyn dydd Gwener 4 o Orffennaf. Cynhelir y raffl yn y ffair haf. Pob lwc i bawb! Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth!
Botwm Crys – Coch
Clychau’r Gog – Oren
Llygaid y Dydd – Melyn
Cenin Pedr – Gwyrdd
Eirlys – Glas
Rhosyn derbyn – Porffor
Rhosyn Meithrin – Pinc