Mabolgampau DYDDIAD NEWYDD 1.7.26

Trefniadau Mabolgampau 1.7.26
Rydym yn gobeithio cynnal ein Mabolgampau ysgol gyfan ar Ddydd Mercher, 1.7.26, rhwng 9.15–11.45.
Bydd ein dosbarth Meithrin yn cymryd rhan tan 11.00 y bore, ac yna’n gorffen fel arfer.
Mae tri thîm ar gyfer y mabolgampau: Plas Newydd, Glyn y Groes a Dinas Brân, ac mae gan bob tîm ei liw penodol. Gofynnwn i’ch plentyn wisgo crys‑T yn lliw ei dîm ar y diwrnod. Bydd tîm a lliw eich plentyn yn cael eu hanfon atoch drwy Seesaw.
Gofynnwn hefyd i chi sicrhau bod gan eich plentyn:
  • botel ddŵr
  • eli haul
  • het haul
Gobeithiwn y bydd rhieni’n gallu mynychu’r bore cyfan neu ran ohono ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.

Mr Gwyndaf Davies 


Pennaeth

Headteacher

Ysgol Y Gwernant


Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×