Eisteddfod Ysgol – School Eisteddfod 2.3.26

Annwyl Rieni a Gofalwyr,
Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu Eisteddfod yr ysgol ar fore Ddydd Llun, 2 Mawrth 2026. Mae hwn bob amser yn ddiwrnod arbennig lle rydym yn dod at ein gilydd i fwynhau diwylliant Cymru, cerddoriaeth, barddoniaeth a chreadigrwydd.
I’n helpu i nodi’r achlysur, gofynnwn yn garedig i’r holl blant ddod i’r ysgol wedi’u gwisgo yn eu lliwiau tîm: coch, gwyn neu wyrdd. Mae lliw tîm pob plentyn eisoes wedi’i rannu gyda chi drwy Seesaw, felly cyfeiriwch at y neges honno os nad ydych yn siŵr pa liw sydd wedi’i ddyrannu i’ch plentyn.
Dear Parents and Carers,
We are looking forward to celebrating our school Eisteddfod on Monday morning the 2nd March 2026. This is always a special day where we come together to enjoy Welsh culture, music, poetry, and creativity.
To help us mark the occasion, we kindly ask that all children come to school dressed in their team colours: red, white, or green. Each child’s allocated team colour has already been shared with you via Seesaw, so please refer to that message if you are unsure which colour your child should wear.
Diolch – Thank You

Mr Gwyndaf Davies 


Pennaeth

Headteacher

Ysgol Y Gwernant


Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×