Diwrnod Mabolgampau – Trefniadau Newydd 15.6.26

Ar ôl ailystyried ein trefniadau gwreiddiol, rydym wedi penderfynu newid y cynllun ar gyfer ein diwrnod mabolgampau eleni.
Byddwn bellach yn cynnal mabolgampau’r ysgol gyfan ar Ddydd Llun, 15.6.26, rhwng 9.15–11.45 y bore.
Bydd ein dosbarth Meithrin yn cymryd rhan tan 11.00 y bore, ac yna’n gorffen fel arfer.
Mae tri thîm ar gyfer y mabolgampau: Plas Newydd, Glyn y Groes a Dinas Brân, ac mae gan bob tîm ei liw penodol. Gofynnwn i’ch plentyn wisgo crys‑T yn lliw ei dîm ar y diwrnod.
Bydd tîm a lliw eich plentyn yn cael ei anfon atoch drwy Seesaw.
Gofynnwn hefyd i chi sicrhau bod gan eich plentyn:
  • botel ddŵr,
  • eli haul,
  • het haul.
Mae croeso i rieni fynychu, ac edrychwn ymlaen at eich gweld ar y diwrnod.

Mr Gwyndaf Davies 


Pennaeth

Headteacher

Ysgol Y Gwernant


Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×