Ymarfer Gweithdrefnau Cloi

Ymarfer Gweithdrefnau Cloi
Annwyl Riant/Gwarcheidwad,
 Yn Ysgol y Gwernant, rydym yn cymryd diogelu a diogelwch o ddifri. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i adolygu ein holl weithdrefnau, gan ystyried hyd yn oed y digwyddiadau hynny sy’n annhebygol iawn o ddigwydd. Fel rhan o’r broses hon cynhaliwyd ymarfer dril cloi pnawn ma.
Beth yw cloi a phryd y byddem yn ei gyflawni?
Mae gweithdrefn cloi i lawr yn weithdrefn iechyd a diogelwch safonol, yn debyg i ymarfer tân. Bydd ein gweithdrefn cloi yn cael ei ddefnyddio pan fo bygythiad i ddiogelwch disgyblion, staff ac eraill yn yr ysgol, a phan mae’n fwy diogel i bawb aros yn yr ysgol na gwacáu. Y nôd yw i gadw pobl yn ddiogel trwy eu cyfyngu i fan diogel. Mae sefyllfaoedd lle gellir defnyddio ein gweithdrefn cloi i lawr yn cynnwys:
• Person neu anifail a allai fod yn beryglus ar safle’r ysgol
• Sefyllfa beryglus yn y gymuned leol a all effeithio ar yr ysgol
• Digwyddiad cemegol cyfagos neu risg arall o lygredd aer
 Mae ein gweithdrefn cloi llawn i’w gweld yn ein polisi cloi ar wefan yr ysgol.
 Mae’n rhaid i mi bwysleisio eto mai ymarfer yn unig oedd hwn, fel bod ein disgyblion a’n staff yn gwbl barod os bydd sefyllfa annhebygol o’r fath yn digwydd. Os oes gennych chi neu eich plentyn unrhyw bryderon neu gwestiynau pellach, mae croeso i chi gysylltu â mi.
Diolch

Mr Gwyndaf Davies 


Pennaeth

Headteacher

Ysgol Y Gwernant


Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×