Blwyddyn 2 / Year 2 (B2)

Croeso i Blwyddyn 2 / Welcome to Year 2

Blwyddyn 2 – Ein Dysgu ar Ddechrau’r Tymor

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu’r plant yn ôl i’r ysgol a dechrau blwyddyn newydd gyffrous gyda’n gilydd ym Mlwyddyn 2! Yn ystod wythnosau cyntaf y tymor, byddwn yn canolbwyntio ar helpu’r plant i ymgartrefu yn eu hystafell ddosbarth newydd, dod i adnabod ein gilydd a theimlo’n hapus, hyderus ac yn barod i ddysgu.

 Dod i adnabod ein gilydd

Byddwn yn treulio amser yn dod i adnabod ein gilydd, gan siarad am ein teuluoedd, ein ffrindiau, ein diddordebau a’r pethau sy’n bwysig i ni.

 Ein dosbarth a’n rheolau

Byddwn hefyd yn dod yn gyfarwydd â threfnau a rheolau ein dosbarth. Byddwn yn trafod sut i ofalu am ein hystafell ddosbarth, gwrando ar eraill, cymryd ein tro, cydweithio a dangos caredigrwydd a pharch. Bydd y plant yn cael eu hannog i fod yn fwy annibynnol a hyderus yn eu hamgylchedd dysgu newydd.

 Dysgu am ein cyrff

Byddwn yn dysgu am ein cyrff. Bydd y plant yn dysgu am wahanol rannau o’r corff ac yn dechrau deall sut mae ein cyrff yn gweithio a sut y gallwn ofalu amdanynt. Byddwn hefyd yn edrych ar ein synhwyrau a sut maent yn ein helpu i archwilio a deall y byd o’n cwmpas.

Diolch am eich cefnogaeth parhaus

Mrs Thomas

Year 2 – Our Learning at the Beginning of Term

We are very excited to welcome the children back to school and begin a new year together in Year 2! Our first few weeks will focus on helping the children settle into their new classroom, get to know one another and feel happy, confident and ready to learn.

We will spend time getting to know each other, talking about our interests, families, friends and the things that are important to us.

We will also become familiar with our new classroom routines and rules. We will discuss how we can look after our classroom, listen to others, take turns, work together and show kindness and respect. The children will be encouraged to become increasingly independent and confident in their new learning environment.

We will be learning about our bodies. The children will explore different parts of the body and begin to understand how our bodies work and how we can take care of them. We will also talk about our senses and how they help us to explore and understand the world around us.

These first few weeks will provide lots of opportunities for talking, listening, working together, developing friendships and becoming confident, independent learners. We look forward to a happy and exciting start to Year 2!

Thank you for your continuous support.

Mrs Thomas

              

Amser Aur—prynhawn Gwener

Mae’r Uned dysgu sylfaen yn cael sesiwn amser aur sef cael y dewis i chwarae gyda amrywiaeth o degannau ac offer. Mae amser aur yn wobr positif i’r plant am eu gwaith caled ac ymddygiad da yn ystod yr wythnos.

Maent yn cael dewis o:

· Teganau e.e. adeiladu, cerbydau a dolïau

·   Gemau a jig-sos

·   Chwarae rôl a gwisgo i fyny

·   Tasgau creadigol

·   Ardal tu allan

·   Gwylio cartŵn neu ffilm

·   Darllen

*Mae’r tasgau a’r teganau yn amrywio yn ystod y flwyddyn.

Golden Time – Friday afternoon

The foundation learning unit has a golden time session where they’re given the choice to play with a variety of toys and equipment. Golden time is a positive reward for the children for their hard work and good behaviour during the week.

They have a choice of:

· Toys e.g. construction, vehicles and dollies

· Games and jigsaws

· Role play and dress up

· Creative tasks

· Outside area

· Watch a cartoon or film

· Reading

*The tasks and toys vary during the year.

 Diolch yn fawr am eich cefnogaeth parhaus                      

Thank you for your continuous support

                                Mrs Meleri Thomas   

·

           

Add our website to your home screen!

ADD
×
PWA Add to Home Icon

Click the PWA Add to Home Banner icon on your browser bar, choose Add to Home Screen. Then click the new icon.

×